Amdanom Ni

Mae Gwasanaeth Ysgolion William Mathias Cyfyngedig yn gwmni sydd wedi ei gyfyngu trwy warant a gofrestrwyd yn elusen ar yr 20fed Mai 2003. Rhif y cwmni: 3102665. Rhif elusen: 1097614.

Prif amcan Gwasanaeth Ysgolion William Mathias Cyf yw i hyrwyddo ac annog darpariaeth gweithgaredd cerddorol yng Ngwynedd, Môn a Sir Ddinbych. Cyflawnir hyn drwy ein darpariaeth o wersi cerddorol offerynnol a lleisiol i dros 13,750 o ddisgyblion gan bron i 100 o diwtoriaid profiadol, ein gwasanaeth benthyca offerynnau cerdd (dros 8,000 o offerynnau), a'r ensemblau rhanbarthol a sirol a gynhelir - bron i 40 ohonynt.

Rheolir y cwmni gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr, a wasanaethir gan gyfarwyddwr a rheolwr sydd yn gyfrifol am redeg y cwmni o ddydd i ddydd.

Ymddiriedolwyr:
Angharad Anwyl, Bil Evans, Sally Harper, W Roger Jones, Dewi Owen Jones, Alun Llwyd, Howel H Roberts, Elinor Bennett Wigley.



Ann Pritchard Jones
Rheolwr
Mari Lloyd Pritchard
Cyfarwyddwr



Cyfarwyddwr:

Enw: Mari Lloyd Pritchard
Swydd: Cyfarwyddwr

Holi Mari...

Ers pryd wyt ti'n gweithio i'r Gwasanaeth?
Ers Medi 2009 fel cyfarwyddwr ond ers pedair blynedd fel arweinydd Côr Ieuenctid Môn - ac yn mwynhau bob eiliad!

Be wyt ti'n neud yn y swyddfa o ddydd i ddydd?
Mae'n gyfnod diddorol ar hyn o bryd gan fy mod yn dal i ddysgu am holl elfennau'r gwasanaeth. Mae fy amser i ar hyn o bryd yn mynd ar gynllunio cyfeiriad a datblygiad y gwasanaeth dros y dair blynedd nesaf. Felly, cadw cysylltiad hefo tiwtoriaid, siarad a gweithio gyda'r cyfrifydd, cadw cysylltiad gyda ysgolion a chyfarwyddwyr addysg, trafod gyda cyfarwyddwyr, darparu adroddiadau a meddwl am lu o bethau difyr y gallwn ni wneud gyda'r ensemblau ffantastig sydd yn rhan o'r gwasanaeth.

Pryd ddeuchreuis di ddiddori mewn cerddoriaeth?
Dwi'n dod o deulu cerddorol - hynny yw - roedd fy mam a'n nhad yn aelodau o sawl côr ac roeddwn i a fy chwaer yn mynd i bob ymarfer hefo nhw! Does gen i ddim amheuaeth mai yno y dechreuodd fy niddordeb i mewn canu corawl. Rhoddodd dysgu chwarae piano yn wyth oed y rhyddid i mi, maes o law, i allu cyfeilio yn y capel a'r gymdeithas ac ati ac yna i gyfansoddi - roedd hyn yn rhoi pleser mawr i mi. Yna wrth gwrs - Ysgol Boded ac arweiniad dwy athrawes ysbrydoledig sef Delyth Rees a Sioned Webb yn ddylanwad mawr arnai!

Wyt ti'n canu offeryn(-nau)?
Cantores ydw i yn y bôn - dyna oedd fy mhrif offeryn yn y brifysgol. Dwi'n gallu chwarae piano ac ambell i gord Dafydd Iwanaidd ar y gitâr.

Pa gerddoriaeth ti'n hoffi gwrando arno?
Bob math o betha! Dwi'n hoff iawn o elfennau quirky mewn caneuon a ddim yn lecio dim byd rhy rhagweladwy! Yn ddiweddar, mae caneuon newydd Shirley Bassey yn hit mawr gen i! Ond yn hanesyddol - Simply Red, Erasure, Faure, Mozart, Super Furries, Black Eyed Peas etc etc etc

Profiad perfformio personol mwyaf cofiadwy?
Heb os, arwain Côr Ieuenctid Môn yn yr Albert Hall, Llundain mis Medi 2009. Roedd ennill gwobr Arweinydd Gorau Côr Cymru 2007 hefyd yn uchafbwynt emosiynnol iawn.

Be sy'n gwneud i ti chwerthin?
Petha na ddyliwn ni ddim chwerthin amdanyn nhw!! Fatha pobl yn baglu neu ddisgyn...

Pa bŵer uwchnaturiol hoffet ti gael a pham?!
Y pŵer i greu mwy o oriau yn y dydd!!

Ydi 10 yn rif unig?
Ydi - dwi ddim yn lecio torfeydd - ac mae deg i mi yn dorf - ac felly ti'n unig mewn tyrfa rhy fawr!! Pa fath o gwestiwn ydi hwn??

[Cwestiwn lled athronyddol ella...oni'n gobeithio ella basa chdi'n ateb un o'r problemau mathemategol sydd heb eu datrys...! Gol.]

 

Rheolwr:

Holi Ann...

Ers pryd wyt ti'n gweithio i'r Gwasanaeth?
Hydref 1999

Be wyt ti'n neud yn y swyddfa o ddydd i ddydd?
Fy nheitl yw Rheolwr y gwasanaeth ac fy mhrif swyddogaethjau yw delio gyda ein cwsmeriaid a staff. Rwy'n cael pleser mawr yn helpu ein h'ysgolion i gael y gorau o'n gwasanaeth ac hefyd mewn cysylltiad cyson gyda'n tiwtoriaid gan gynnig y gefnogaeth orau posib i'n staff yn ddyddiol. Dwi hefyd yn gyfrifol am system ariannol y cwmni sydd yn cynnwys prosesu cyflogau, delio gyda cyllid y wlad, pensiynnau, cytundebau ac yn y blaen.

Pryd ddeuchreuis di ddiddori mewn cerddoriaeth?
Peidiwch a deud wrth neb...dwi ddim yn berson cerddorol! Mi ges i wersi piano pan o'n i'n iau, ond dyna ni.

Wyt ti'n canu offeryn(-nau)?
Piano (gradd 6 ers talwm...annobeithiol erbyn hyn berryg!)

Pa gerddoriaeth ti'n hoffi gwrando arno?
Mae'n rhai i mi ddeud mod i yn licio dipyn bach o bob dim ! Cd'iau Westlife a Bryn Fôn sydd yn y car ar hyn o bryd ac er nad wyf yn gerddor - dwi wir yn mwynhau y gerddoriaeth y mae pobl ifanc y gwasanaeth yn ei berfformio.

Profiad perfformio personol mwyaf cofiadwy
Gwneud deuawd piano yn Eisteddfod Bentra Llanberis yn 19** - un o'r ychydig brofiadau perfformio!

Be sy'n gwneud i ti chwerthin?
Colomennod

Pa bŵer uwchnaturiol hoffet ti gael a pham?!
Y gallu i fod yn annweledig fel mod i'n medru gweithio heb gael fy sdyrbio!!

Ydi 10 yn rif unig?
Be ti'n rwdlan dwad?!


Chwilio am staff newydd - Cliciwch yma am fwy

Cliciwch yma am atebion i'ch cwestiynau .........

 

Yn yr adran yma o’r wefan gewch fwy o wybodaeth am y ganlynol: