Cyfeillion Cerdd Ieuenctid Gwynedd

Bore Coffi - Chwefror 26, 2011

Bydd Cyfeillion Cerdd Ieuenctid Gwynedd yn cynnal Bore Coffi ar gyfer rhieni- paned a chacen Dydd Sadwrn Chwefror 26ain 2011 rhwng 10:00 - 11:00 yn Ysgol Friars, Bangor

Galwch mewn wrth ddanfon eich mab/merch i’r ymarfer - Byddent yn ddiolchgar iawn am eich cefnogaeth.

Byddent hefyd yn paratoi cinio ysgafn i’r cerddorion ifanc - Cawl/Bara /Cŵn poeth. ‘Dwi’n siŵr ein bod i gyd yn ddiolchgar i’r Cyfeillion am eu parodrwydd i baratoi'r cinio yn gyson er mwyn casglu arian tuag at ddigwyddiadau ac offerynnau'r Gwasanaeth Cerdd.

Dewch draw i’w cefnogi!!!!

CYLCHLYTHYR – IONAWR 2011

Dyma ychydig o wybodaeth am ein gweithgareddau diweddaraf.

Cerddorfeydd Rhanbarthol a Thraws-Siro l- Mae Cyfeillion Cerdd Ieuenctid Gwynedd yn parhau i baratoi lluniaeth yn wythnosol ac yn fisol yn yr ymarferion yn Ysgol Friars.Diolch i’r rhai ohonoch a gefnogodd ein bore coffi ar 20fed Hydref. Roedd yn gyfle gwych i rieni gyfarfod dros baned ac yn help i godi mwy o arian. Diolch arbennig hefyd i’n gwirfoddolwyr newydd am eu cymorth. Os oes gennych ddiddordeb ein helpu, mae manylion aelodau’r pwyllgor ar waelod y dudalen.

Cyrsiau Haf GYWM - Roedd y cyrsiau yn wahanol i’r rhai blaenorol, ond yr un mor boblogaidd a llwyddiannus.Roedd y cerddorion a’r gynnulleidfa wedi mwynhau’r cyngherddau ar ddiwedd y cyrsiau. Rhoddwyd £3,500 gan CCIG tuag at eu rhedeg.

Cwrs Roc a Phop - Cwrs deuddydd oedd hwn, gyda chyngerdd yn Neuadd PJ, Bangor ar y noson olaf. Bu’r Cyfeillion yn brysur yn paratoi lluniaeth a gwerthu tocynnau ar y drysau.

Cwrs Symffonig Glanllyn - Cwrs preswyl oedd hwn , gyda chyngerdd i rieni ar ddiwedd y cwrs. Diolch arbennig i’r holl diwtoriaid am eu hymroddiad ac i Mari, Ann a Gwenda am yr holl waith trefnu.

Ymddiriedolaeth John Thorpe - Dyma’r chweched gwaith i CCIG gynnig bwrseriaethau gan yr ymddiriedolaeth. Aeth y wobr grwp i Celloscope i redeg cwrs yn y Galeri. Derbyniodd Elen Hydref fwrsari unigol tuag at gostau i fynychu Cwrs Meistri i Delynwyr yn y Swisdir. Cafodd ei dewis yn unawdydd y flwyddyn. Un telynor/es sy’n cael ei dewis yn flynyddol ar y cwrs! Y dyddiad cau am bwrseriaeth 2011 yw Mawrth 4ydd (grŵp) ac Ebrill 28ain (ceisiadau gan unigolion).

Cerddorfa Ieuenctid Gogledd Cymru - Rhoddwyd arian i unigolion o Wynedd tuag at gostau i fynychu cwrs ym mis Awst.

Ensemble Cymru - Mae’r Cyfeillion wedi cytuno i roi cymorth ariannol i brosiect diweddaraf EC drwy’r “Big Give”. Eu bwriad yw i recordio perfformiad byw o “Pedr a’r Blaidd” yn y Gymraeg. Mae Rhys Ifans wedi cytuno i adrodd y stori yn ddi-dâl. Am mwy o fanylion ewch ar wefan EC- www.ensemblecymru.co.uk

Cyngerdd Nadolig GYWM - Cafwyd noson arbennig yn y Gadeirlan, gyda pherfformiadau arbennig gan Côr Ieuenctid Ynys Môn ,Côr Hŷn Gwynedd a Môn, Côr Telyn a Grŵp Hŷn Chwythbrennau’r Gwasanaeth.

Aelodaeth - Os ydych yn dymuno ail-ymaelodi, amgaeïr manylion yn yr atodiad. Yn y cyfamser hoffem ddiolch yn fawr i chwi am gefnogi ein helusen hyd yma a dymuno’r gorau i chi yn y flwyddyn sydd i ddod. Bydd ein pwyllgor nesaf nôs Wener 21ain Ionawr, os oes gennych rhywbeth yr hoffech i ni ei drafod.

Digwyddiadau i ddod - Cyngerdd Blynyddol GYWM yn Neuadd Pritchard Jones, Bangor ar nôs Sul 3ydd Ebrill. Am mwy o wybodaeth ewch ar wefan GYWM- cerdd.com

Pwyllgor -
Cadeirydd ac Ysgrifennydd John Thorpe - Sian Turner 01248 600316 sianturner@hotmail.com
Ysgrifennydd Cyffredinol - Carol Williams 01248 370314 tyddynheilyn@hotmail.com
Trysorydd ac Aelodaeth - Lesley Thompson wern@btinternet.com
Ysgrifennydd Cofnodion - Carrie Rimes
Aelodau’r Pwyllgor - Rita Roberts, Lucy Clement-Evans, Kakali Mitra.

 

Er mwyn cael copi o Gylchlythyr Ionawr 2011 - cliciwch yma

Aelodaeth: Blwyddyn 2010-2011 - cliciwch yma