FAQ

 

 

 

 

Soniwch wrth eich ysgol eich bod yn dymuno i’ch plentyn dderbyn gwersi offerynnol. Yna, os yw’n briodol, bydd yr ysgol yn trefnu i un o’n tiwtoriaid ddod i’r ysgol i drafod ymhellach.

Yr ysgolion sy'n penderfynu ar gost y gwersi i'w disgyblion; gall y gost amrywio o £25 i £50 y tymor.

Os yw rhieni'n dymuno terfynu gwersi yn ystod tymor penodol, rhaid i'r rhieni hysbysu'r ysgol cyn i'r tymor hwnnw gychwyn. Oni wneir hyn bydd tâl llawn yn daladwy i'r ysgol neu'r awdurdod am wersi am y tymor.

Holwch eich ysgol am wersi offerynnol – gall tiwtoriaid offerynnau unigol gynnig cyngor am oedran addas dechrau gwersi. Er enghraifft, bydd rhai yn cynghori peidio dechrau canu offerynnau pres nes bod plant wedi colli dannedd babi.

Mae'r Gwasanaeth yn cynnig tiwtoriaeth ym mhob offeryn cerddorfaol a seindorfol ar draws y siroedd, ond bod y cyflenwad yn amrywio ar draws yr ardaloedd yn dibynnu ar ddymuniad ysgolion ac argaeledd tiwtoriaid. Dylid trafod ceisiadau arbennig gyda ysgol eich plentyn yn y lle cyntaf.

Darperir offeryn i'r disgyblion yn rhad ac am ddim gan y Gwasanaeth, os oes rhai ar gael, am gyfnod o 2 flynedd. Wedi i'r cyfnod o ddwy flynedd lle darperir offerynnau gan y Gwasanaeth ddod i ben, disgwylir i rieni wneud eu trefniadau eu hunain. Mae cynllun yn bodoli sy'n galluogi rhieni i brynu offerynnau cerdd (ac eithrio piano) drwy'r awdurdod lleol, gan arbed TAW, os yw'r offeryn at ddefnydd addysgol rheolaidd. Cysylltwch â’r swyddfa am y ffurflenni priodol.

Darperir 30 o wersi y flwyddyn ar hyd y flwyddyn ysgol. Amserlennir y gwersi gan y tiwtoriaid a'r ysgol.

Cynhelir y gwersi yn ystod oriau ysgol, yn ôl amserlen y tiwtoriaid. Lle bo modd, trefnir amserlen gylchol fel bo'r disgyblion ddim yn colli gwersi yr un amser pob wythnos.

Bydd hyd y gwersi yn dibynnu ar ddymuniad yr ysgol a'r tiwtoriaid, ond fel arfer bydd disgyblion yn cael 10 i 15 munud yr wythnos mewn ysgol Gynradd a 20 i 30 munud yr wythnos mewn ysgol Uwchradd.

Bydd tiwtor eich plentyn yn awgrymu iddynt ymuno â grŵp rhanbarthol a sirol pan fydd y disgybl yn barod.

Mae’r disgyblion sy’n derbyn gwersi offerynnol drwy’r Gwasanaeth yn cael mynychu’r ensemblau rhanbarthol a sirol am ddim.

Mae croeso i unrhyw blentyn oed ysgol ymuno, ar gost o £30 y tymor, sy’n gymorth i dalu costau arweinyddion, tiwtoriaid a lleoliadau.

Os bydd eich plentyn yn dechrau derbyn gwersi offerynnol yn yr ysgol, bydd y tiwtoriaid yn darparu'r offeryn gan y Gwasanaeth.

Os ydych yn benthyg offeryn gan y Gwasanaeth, chi fydd yn gyfrifol am edrych ar ôl yr offeryn a gwneud yn siŵr ei fod yn dychwelyd mewn cyflwr boddhaol. Gall rhai o’r offerynnau fod yn ddrud i’w amnewid – holwch diwtor eich plentyn am werth yr offeryn. Argymhellir yn gryf eich bod yn yswirio’r offeryn.

Mae disgwyl i’r disgyblion gadw’u hofferynnau mewn cyflwr da. Golyga hyn y bydd angen prynu rhai ategolion o bryd i’w gilydd. Gall eich tiwtor awgrymu beth sydd ei angen a lle maent ar gael i’w prynu. Bydd y tiwtor hefyd yn argymell i chi brynu unrhyw gerddoriaeth fydd ei angen ar y disgybl.