Grwpiau Traws Siriol
Mae gan y Gwasanaeth 10 grŵp traws-sirol sy'n cyfarfod unwaith y mis ac yn gweithio tuag at gyngerdd ym mis Mawrth. Mae'r grwpiau sirol yn rhoi cyfle i'r disgyblion gymryd rhan mewn ensemblau sy'n cynnig ychydig mwy o her na'r grwpiau rhanbarthol, ac yn ehangu eu repertoire a'u profiad o gyd-chwarae gyda arweinyddion a staff tiwtora profiadol.
Ffurflen Aelodaeth - cliciwch yma
Gwynedd a Môn

gwybodaeth i ddod...
| Enw'r grŵp: Cerddorfa Linynnol Hŷn Gwynedd a Môn Nifer aelodau: ~20 Enw'r arweinydd: Ed Wright Arwain ers... 2009 |
Holi Ed...
Be sy'n bwysig i chi wrth arwain grwp?
Cael hwyl a chreu rhywbeth sy'n hygyrch a chynhwysol i safon cyn uched ag y bo modd.
Soniwch am ddigwyddiad cofiadwy/doniol fel arweinydd gyda'r grwp
Chware carolau Nadoligaidd y tu allan ym Mangor ynghanol y gwallgofrwydd a elwir "adeg siopa Nadolig"!
Pryd ddechreuoch chi ddiddori mewn cerddoriaeth?
Dwi'n ffodus iawn fod gen i fam gerddorol, felly mae wasdad wedi bod o gwmpas y lle, ond mi ddechreuish i ganu offeryn yn 7 oed os oes rhaid rhoi dyddiad arno!
Pa offerynnau ydach chi'n eu canu?
Ffidil / Fiola / Cyfrifiadur (ewch i'm gwefan[http://www.virtual440.com/] i glwyed rhai o'm cyfansoddiadau!)
Profiad perfformio personol mwyaf cofiadwy
Chwarae unawd o un o'm caneuon mewn cyngerdd bach. Beth wnaeth o'n arbennig oedd bod fy merch fach, oedd yn fis oed ar y pryd, wedi cael ei smyglo o Ysbyty Alder Hey am y noson, ac roedd hi i'w gweld yn mwynhau'n fawr. Dyddiau da.
Pa gerddoriaeth ydach chi'n hoffi gwrando arno?
Pob math o bethau - o Palestrina i Boulez, heb anghofio galw heibio i Led Zeppelin a Squarepusher.
Be sy'n gwneud i chi chwerthin?
Pethau hurt, fel moch daear ar esgidiau rholio.
Pa bŵer uwchnaturiol hoffech ei gael a pham?!
Y gallu i hedfan. Un poblogaidd gan bawb, ond byddai'n goblyn o hwyl.
| Enw'r grŵp: Cerddorfa Linynnol Iau Gwynedd a Môn Nifer aelodau: 30-40 Enw'r arweinydd: Margaret Scourse Arwain ers... 1990 |
Holi Margaret...
Be sy'n bwysig i chi wrth arwain grwp?
Repertoire i'w fwynhau ond heriol wedi ei berfformio gan ensemble mor rythmig â phosibl. Y brif amcan ydi ysbrodoli'r plant a chynnau fflam brwdfrydedd.
Soniwch am ddigwyddiad cofiadwy/doniol fel arweinydd gyda'r grwp
Tra'n ymarfer Pavane Faure ynghyd â'r Gerddorfa Linynnol; defnyddio "bronglwm di-linell" (seamless bra!) fel cyffelybiaeth i gyfleu brawddegu legato!
Pryd ddechreuoch chi ddiddori mewn cerddoriaeth?
Yn 12 oed yn chwarae mewn cerddorfa symffoni am y tro cyntaf
Pa offerynnau ydach chi'n eu canu?
Ffidil, fiola, piano
Profiad perfformio personol mwyaf cofiadwy
Perfformio "Y dioddefaint yn ôl Sant Mathew" gan Bach yng Nghapel Coleg y Brenin, Caergrawnt, gyda Philip Ledger yn arwain a Janet Baker yn canu'r rhan alto.
Pa gerddoriaeth ydach chi'n hoffi gwrando arno?
Pob math - unrhyw gerddoriaeth o safon uchel.
Be sy'n gwneud i chi chwerthin?
Sefyllfaoedd dwl, o, a Wynne Williams!
Pa bŵer uwchnaturiol hoffech ei gael a pham?!
Hedfan
Mwy o fanylion am y grŵp...
Mae'r grŵp yma'n addas ar gyfer cerddorion o safon Gradd 2/3 - Gradd 5, yn ddelfrydol ar ôl iddynt fod yn aelodau o grwpiau rhanbarth am ychydig flynyddoedd. 'Da ni'n chwarae ystod eang o ddarnau i bob chwaeth cerddorol, er enghraifft:
- Eine Kleine Nachtmusik, Mozart (trefniant hawdd)
- Adiemus, Karl Jenkins
- Hey Jude, Beatles
- Cerddoriaeth o 'Cats', Andrew Lloyd Webber
- Cerddoriaeth werin o bob cwr o'r byd
- Detholiad o gerddoriaeth Abba
- 'Fireworks' a 'Water Musik', Handel
| Enw'r grŵp: Band Chwyth Symffonig Nifer aelodau: 45 - 60 Enw'r arweinydd: Paul Hughes Arwain ers... tua 5 mlynedd |
Holi Paul...
Be sy'n bwysig i chi wrth arwain grwp?
Mae'n bwysig dangos yn glir be 'da chi'n trio'i greu o ran sain a dehongliad, ac mae angen gnweud yn siwr bod y bobl ifanc yn y band yn cael y profiad cerddorol gorau gallwch ei gynnig.
Soniwch am ddigwyddiad cofiadwy/doniol fel arweinydd gyda'r grwp
Y perfformiad mwyaf cofiadwy oedd cymryd rhan yng nghyngerdd 10 mlwyddiant y Gwasanaeth a gynhaliwyd yn Neuadd PJ, Bangor. Roedd hi'n ymdrech enfawr gan bawb i roi'r cyngerdd at ei gilydd i safon uchel iawn.
Mae rhywbeth doniol yn digwydd o hyd wrth weithio gyda phobl ifanc...mae llawer iawn o achosion felly nad ydw i am rannu gyda chi yma!!
Pryd ddechreuoch chi ddiddori mewn cerddoriaeth?
Dwi wastad yn cofio bod â diddordeb mewn cerddoriaeth, yn gwrando i LPs fy rhieni...ia, y ffordd hen ffasiwn o wrando ar gerddoriaeth! Roedd gan fy nhaid wasdad lawer o offerynnau o amgylch ei dŷ a roeddwn i'n arfer 'ceisio' eu chwarae!
Pa offerynnau ydach chi'n eu canu?
Dwi'n canu'r Corned, Corn Fflwge a'r Trwmped...yn wael!
Profiad perfformio personol mwyaf cofiadwy
Mae llawer o berfformiadau dwi'n falch o fod yn rhan ohonynt. Yr un perfformiad sy'n aros yn y cof yw chwarae gyda Band Glofa Grimethorpe yn yr Albert Hall. Roeddem ni'n chwarae New Jerusalem gan Philip Wilby yn rownd derfynol Pencampwriaethau Cenedlaethol y Bandiau Pres. Roedd hi'n adeg emosiynol i'r band i gyd gan fod John Major a'i syrcas newydd gyhoeddi, bythefnos cyn y gystadleuaeth, ei fod am gau bron i bob un o'r glofeydd oedd ar ôl ym Mhrydain - gan gynnwys Glofa Grimethorpe. Golyga hyn bod 17 o aelodau'r band ar fin colli eu gwaith, a bod y genedl ar fin colli un o fandiau pres mwyaf dylanwladol y wlad, os nad y byd. Nid afrad dweud bod y band wedi chwarae a'u holl enaid, ac enillon nhw 99 pwynt allan o 100 posibl. Mae pobl dal i ddweud hyd heddiw mai hwn oedd y perfformiad gorau ar lwyfan cystadleuaeth gan unrhyw fand pres erioed.
Pa gerddoriaeth ydach chi'n hoffi gwrando arno?
Does na'm un math o gerddoriaeth dwi'n gwrando arno fo mwy na 'run math arall. Ma 'nhast i'n amrywio o jazz a pop i 'heavy metel'...o ydw, dwi "down with the kids"!
Be sy'n gwneud i chi chwerthin?
Gruff yn canu'r xylo efo "un sdic"!!
Pa bŵer uwchnaturiol hoffech ei gael a pham?!
Trafeilio drwy amser fel y byddwn i'n medru mynd 'nôl i brofi bywyd mewn oesau gwahanol.
| Enw'r grŵp: Band Chwyth Gwynedd a Môn Nifer aelodau: 70 Enw'r arweinydd: Dylan Williams Arwain ers... 2005 |
Holi Dylan...
Be sy'n bwysig i chi wrth arwain grwp?
Bod y bobl ifanc yn mwynhau, a thrwy hyn yn codi safon ei hunain a'r band. Mae nifer y band wedi cynddu yn sylweddol ers 2005.
Soniwch am ddigwyddiad cofiadwy/doniol fel arweinydd gyda'r grwp
Bob cwrs haf rydym yn cael hwyl o'r dechrau i'r diwedd; hwn yw uchafbwynt y flwyddyn i ni fel band.
Dwi'n cofio un blwyddyn ar ddiwedd cyngerdd y cwrs, y plant i gyd yn gofyn os caent aros a bod nhw ddim eisiau mynd adref, hyn yn dangos i mi faint mae'r plant yn fwynhau.
Dwi'n cofio un or plant yn hwyr ar ôl cinio i'r ymarfer blwyddyn diwethaf a pawb yn gofyn lle roedd y person hwn. Peth nesaf, y ffôn symudol yn mynd yn ganol yr ymarfer - pwy oedd yno ond y disgybl yn gadael ni wybod ei fod wedi cloi ei hun yn y toilet ac yn pleidio am help! Digri ar y pryd!
Pryd ddechreuoch chi ddiddori mewn cerddoriaeth?
Yn ôl ym mlwyddyn 5 yn Ysgol yr Hendre pan ddechreuais gael gwersi corn yn ddeg oed. Roeddwn yn canu yn dair oed.
Pa offerynnau ydach chi'n eu canu?
Bob offeryn pres, ond yn arbenigo yn y cornet. Dwi hefyd yn gallu canu'r piano, clarinet a saxophone.
Profiad perfformio personol mwyaf cofiadwy
Chwarae i'r frenhines, ac i'r Tywysog Charles ar achlysur gwahanol. Chwarae gyda Band Pres 'A' Prifysgol Salford tra roeddwn yn y coleg am dair blynedd (band o'r safon uchaf).
Pa gerddoriaeth ydach chi'n hoffi gwrando arno?
Pob math o gerddoriaeth; pop, clasurol, jazz, bandiau pres.
Be sy'n gwneud i chi chwerthin?
Rhaglen deledu Doc Martin. Gweld y plant yn gwir fwynhau eu hunain.
Pa bŵer uwchnaturiol hoffech ei gael a pham?!
Bod yn anweledig er mwyn gallu busnesu i fewn a gweld beth sy'n mynd ymlaen mewn cyfarfodydd ayyb o gwmpas y byd.
| Enw'r grŵp: Band Pres Hŷn Gwynedd a Môn Nifer aelodau: 30 - 40 Enw'r arweinydd: Gwyn M Evans Arwain ers... 1996 |
Holi Gwyn...
Be sy'n bwysig i chi wrth arwain grwp?
"Creu cerddoriaeth o safon tra'n cael llawer o hwyl"
neu hyd yn oed "Cael llawer o hwyl tra'n creu cerddoriaeth o safon"
Soniwch am ddigwyddiad cofiadwy/doniol fel arweinydd gyda'r grwp
Mwyaf cofiadwy - Arwain y Band yn proms Ysgolion yn y Royal Albert Hall, 2008
Mwyaf doniol - Cysgu yn yr un gwely a Mr John Glyn Jones tra ar daith yn Awstria, 1997
Pryd ddechreuoch chi ddiddori mewn cerddoriaeth?
O oed cynnar iawn! Mae mam yn dweud i mi fod yn canu mewn Eisteddfodau pan yn 3 oed, ac yn chwarae'r drymiau mewn grŵp yn 5. Mae gen i lun ohonnai yn chwarae'r drymiau yn Eisteddfod Llanddeusant yn 5 oed, yn eistedd ar stôl a 'nhraed ddim hyd yn oed yn cyffwrdd y llawr!
Pa offerynnau ydach chi'n eu canu?
Trwmped/Corned a'r rhan fwyaf o offerynnau Pres eraill
Piano (safon ystafell fyw!)
Drymiau ac offerynnau taro yn wael!
Profiad perfformio personol mwyaf cofiadwy
Canu'r Corned Soprano gyda Band "B" Biwmares yn y Royal Albert Hall gyda 'nhad Mr Fred Evans yn arwain y perfformiad buddugol ym Mhencampwriaeth Cenedlaethol Bandiau Pres Prydain yn y flwyddyn 2000, Adran 4.
Pa gerddoriaeth ydach chi'n hoffi gwrando arno?
Clasurol, Jazz, Gwerin, Cerddoriaeth y Byd, Pop...mewn gwirionedd unrhyw beth heblaw Canu Gwlad.
Be sy'n gwneud i chi chwerthin?
Tommy Cooper a John Glyn! Y ddau'n ddigrifwyr naturiol!
Pa bŵer uwchnaturiol hoffech ei gael a pham?!
Medru gweld y dyfodol
Pam? Fel mod i'n medru ennill y loteri ac ymddeol!!!
| Enw'r grŵp: Band Prês Iau Nifer aelodau: 42 Enw'r arweinydd: John Glyn Jones Arwain ers... ei sefydlaid yn 2003 |
Holi John...
Be sy'n bwysig i chi wrth arwain grwp?
Rhaid sicrhau fod yr holl aelodau yn mwynhau'r profiad o fod yn rhan o'r grwp, ac yn teimlo eu bod yn bwysig i lwyddiant y perfformiadau. Pwysig iawn fod pawb yn cael ' HWYL ' wrth weithio yn galed mewn ymarferion ac i gofio mai rhywbeth i'w fwynhau yw cerddoriaeth.
Soniwch am ddigwyddiad cofiadwy/doniol fel arweinydd gyda'r grwp
Bydd y Cyngherddau Nadolig i gyd yn aros yn y côf am amser maith ond rhaid datgan mai y digwyddiad mwyaf cofiadwy a phleserus oedd ein perfformiad a buddugoliaeth pan ddaeth y band yn Bencampwyr Ieuenctid Prydain yn Ebrill 2009, yn enwedig o gofio i ni foddi yn ymyl y lan trwy ennill yr ail wobr yn 2008.
Pryd ddechreuoch chi ddiddori mewn cerddoriaeth?
Rwyf wedi ymddiddori mewn cerddoriaeth ers yn blentyn bach iawn gan ddechrau chwarae'r Cornet yn wyth oed. Cefais wersi Piano gyda'r enwog G. Peleg Williams pan yn yr ysgol cyn symud i'r Coleg yn Llundain dan ofal tad Julian ac Andrew Lloyd-Weber.
Pa offerynnau ydach chi'n eu canu?
Rwyf yn chwarae'r Trumpet, Cornet a Piano.
Profiad perfformio personol mwyaf cofiadwy
Roedd chwarae'r Trwmped mewn angladd i gyn-ddisgybl a laddwyd mewn damwain yn brofiad emosiynnol iawn. Bu arwain Band Pres Hŷn Gwynedd/Môn yn y School Proms yn yr Albert Hall yn y flwydddyn 2000 yn brofiad bythgofiadwy.
Pa gerddoriaeth ydach chi'n hoffi gwrando arno?
Byddaf yn gwrando ar bob math o gerddoriaeth, ond yn mwynhau cerddoriaeth o'r cyfnodau Clasurol a Romantaidd yn bennaf. Beethoven yw fy ffefryn, ond tydwi ddim yn ffan mawr o Opera.
Be sy'n gwneud i chi chwerthin?
Tîm peldroed Lerpwl yn colli a chlywed jôc dda. Byddaf wrth fy modd yn tynnu coes.
Pa bŵer uwchnaturiol hoffech ei gael a pham?!
Buaswn wrth fy modd petawn yn gallu rheoli holl arian a chyfoeth y byd a gwneud i bawb fyw yn gytun ac yn hapus, er mwyn cael gwared a phob gwleidydd a chyfreithiwr.
Enw'r grŵp: Band Jazz Gwynedd a Môn
Nifer aelodau: ~24
Enw'r arweinydd: Einion Dafydd
Arwain ers... y dechrau!
Holi Einion...
Be sy'n bwysig i chi wrth arwain grwp?
Y cyfle i gydweithio gyda mintai o gerddorion ifanc mewn rhyw arddull penodol a thrwy hynny eu tywys at safonau uchel o gyrhaeddiad; yn uwch nag a wnaethon nhw o'r blaen. Hefyd, yn achos jazz, eu cymell i chwarae'n fyrfyfyr - a hynny'n gyhoeddus - er darganfod eu mympwyon cerddorol eu hunain. Mae'n gyfrwng diarhebol o dda am hunan-fynegiant.
Soniwch am ddigwyddiad cofiadwy/doniol fel arweinydd gyda'r grwp
Gan fod llawer o berfformiadau heb eu pennu'n derfynol wrth ymarfer oherwydd natur jazz, mae pethau digri'n digwydd drwy'r adeg e.e. yr unawdydd nad yw'n gwybod ble mae gorffen ei unawd ac felly ar ei draed/thraed am yn rhy hir o lawer. Caneuon yn gorffen cyn yr arweinydd.
Yn ystod cwrs o dan arweiniad Bosco de Oliveira, mi fu'r band yn canu (canu lleisiol h.y.) caneuon mewn ieithoedd Affricanaidd a Sbaeneg ac yn ddigyfeiliant ar flaen y llwyfan; felly oedd dylanwad hudolus Bosco.
Mike Hall (sacs, o'r RNCM) yn gofyn i Huw Warren "and do you play anything?"!
Pryd ddechreuoch chi ddiddori mewn cerddoriaeth?
Mae atgofion gen i o ddechrau cael gwersi ffidil yn yr ysgol gynradd, ac un wers telyn - dim ond un. Methu dioddef mwy. Y tu hwnt i ddysgu chwarae offerynnau a chanu, sylwi fy mod yn hoffi poitshan ar y piano fore Sadwrn yn fy arddegau a cheisio atgynhyrchu'r seiniau cordiau y byddai eraill yn eu chwarae.
Pa offerynnau ydach chi'n eu canu?
Clarinet, Sacs a (bellach) strymio'r Piano. Ydy cyfansoddi'n offeryn?!
Profiad perfformio personol mwyaf cofiadwy
Caneuon actol Glanaethwy gan y bydden nhw'n wreiddiol o ran geiriau a cherddoriaeth, a'r rhannau piano yn gythreulig o anodd.
Perfformio = cyfansoddi ... clywed rhai o fy narnau darnau mwyaf herfeiddiol yn cael eu perfformio.
Pa gerddoriaeth ydach chi'n hoffi gwrando arno?
Unrhyw beth sy'n cael ei chwarae gydag arddeliad a didwylledd.
Be sy'n gwneud i chi chwerthin?
Arabedd byrfyfyr mewn sefyllfaoedd amhriodol/ffurfiol.
Pa bŵer uwchnaturiol hoffech ei gael a pham?!
Hedfan - rhatach nac easyjet.
Enw'r grŵp: Côr Telyn Gwynedd a Môn
Nifer aelodau: ~12
Enw'r arweinydd: Alwena Roberts
Arwain ers... tua 1998
Holi Alwena ...
Be sy'n bwysig i chi wrth arwain grwp?
Mae'r delyn yn gallu bod yn offeryn unig iawn ac felly mae'n braf medru dod at ein gilydd yn un teulu brwd o delynorion! Mae'n bwysig ein bod yn cael hwyl yn ogystal a chyrraedd safon mor uchel a phosibl o chwarae wrth gwrs!
Soniwch am ddigwyddiad cofiadwy/doniol fel arweinydd gyda'r grwp
Ein 'debut' yn Eisteddfod Genedlaethol Môn yn 1999 yw'r digwyddiad mwyaf cofiadwy mae'n debyg - dim ond oherwydd mai hwnnw oedd ein tro cyntaf ar lwyfan. Y peth doniolaf o edrych yn ôl oedd perfformio darn gan gyfansoddwr o Gymro (wnai mo'i enwi!) - daeth telynau 1 i mewn far cyfan cyn gweddill y telynau a pharhau felly i ddiwedd y darn - WNAETH NEB SYLWI!!! Doeddwn i ddim yn ei weld yn ddoniol ar y pryd!
Pryd ddechreuoch chi ddiddori mewn cerddoriaeth?
Dechreuais gystadlu mewn eisteddfodau pan oeddwn yn 2 a hanner oed - felly fe dyfodd y diddordeb yn naturiol rhywsut. Cefais fy magu ar aelwyd lle rhoddwyd bwys mawr ar unrhyw weithgaredd cerddorol. Cefais fenthyg telyn gan Gymdeithas Cerdd Dant Cymru pan oeddwn yn 11 oed, ac roeddwn yn gwybod yn fuan mai athrawes telyn hoffwn fod!
Pa offerynnau ydach chi'n eu canu?
Telyn a phiano, ond fe astudiais 'llais' yn y coleg yn ogystal.
Profiad perfformio personol mwyaf cofiadwy
Roeddwn yn arfer hyfforddi côr cerdd dant pan oeddwn yn byw ym Mhontypridd. Fe enillon sawl gwaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol a'r Ŵyl Cerdd Dant. Yn Eisteddfod Abergwaun yn 1986 fe ganodd y côr yn wefreiddiol - rwy'n cofio iasau'n mynd lawr fy nghefn wrth wrando arnynt - (nid yw hynna'n digwydd yn aml!). Enillodd y côr ac o'r herwydd fe enillais i fedal o aur clogau wedi ei dylunio gan y gof arian Rhiannon.
Pa gerddoriaeth ydach chi'n hoffi gwrando arno?
Unrhyw fath. Ychydig iawn o gerddoriaeth sydd ddim at fy nhast.
Be sy'n gwneud i chi chwerthin?
Dylan Cernyw!!!
Pa bŵer uwchnaturiol hoffech ei gael a pham?!
Y gallu i symud telynau dim ond wrth bwyntio bys atynt!! - arbed tipyn ar y cefn!!!
Sir Ddinbych
Holi John...
Be sy'n bwysig i chi wrth arwain grwp?
Gwthio'r safon mor uchel a phosibl heb fynd mor bell a bod y bobl ifanc ddim yn mwynhau.
Soniwch am ddigwyddiad cofiadwy/doniol fel arweinydd gyda'r grwp
Gyda Band Pres Sir Ddinbych - chwarae ar y Cae Ras yn Wrecsam yn cystadlu efo'r cefnogwyr i weld pwy fedra wneud y mwya o sŵn.
Pryd ddechreuoch chi ddiddori mewn cerddoriaeth?
Canu caneuon gwerin Latfiaidd o amgylch y tân pan o'n i'n ifanc iawn, ar lin Nain, yn siglo yn ei chadair siglo. Mae'r gadair dal gen i o flaen y tân yn fy nghegin.
Pa offerynnau ydach chi'n eu canu?
Ewphoniwm, a dwi'n potshan efo'r Ffliwt Trwyn Tsieineaidd.
Profiad perfformio personol mwyaf cofiadwy
Gig fy ngrŵp Tubalaté lle cawsom ein talu am y tro cyntaf. Roeddem ni yn yr amgueddfa bensiliau yn Keswick, yn sefyll ynghanol yr afon gyda'r dŵr at ein penna gliniau, yn canu Mission Impossible fel cyfeiliant i ras gychod papur i blant dan bump! - cyffrous!
O, a pherfformio i 2 filiwn o wylwyr gorsaf deledu boblogaidd yn Rwsia yn y Palas Marmor, rhan o'r Hermitage yn St Petersburg - roedd hynny'n braf. Mi wnaethom ni chwarae ym Mhalas Buckingham hefyd, ym mharti pen-blwydd y Tywysog Siarl yn 50. Cefais sgwrs efo Spike Milligan, ac roedd gwylio Joanna Lumley yn rhedeg ar ôl William Hague yn ddoniol iawn!
Pa gerddoriaeth ydach chi'n hoffi gwrando arno?
Tom Waits, cerddoriaeth bandiau pres a cherddoriaeth cerddorfaol. Fy ffefrynnau yw Swordfishtrombones, Pageantry gan Herbert Howells ac Ein Heldenleiben gan Richard Strauss
Be sy'n gwneud i chi chwerthin?
Jôcs 15 oed ail-adroddus Tubalaté does na neb heblaw amdana i'n eu deall. E.e: "Paul, pass me the tuner" (Paul yn pasio'r peiriant tiwnio i mi) "yes, thanks - now pass me the tin opener"
Pa bŵer uwchnaturiol hoffech ei gael a pham?!
Medru cyfathrebu efo ysbrydion a gofyn iddynt ddychryn rhai chwaraewyr Pres fel eu bod yn ymarfer mwy!
Cysylltu
Gwasanaeth Ysgolion William Mathias
Galeri
Doc Victoria
Caernarfon
Gwynedd
LL55 1SQ
Ffôn: 01286 685235
Facs: 01286 685234
E-bost: mari@cerdd.com
ann@cerdd.com


