Ensemblau
Mae'r Gwasanaeth yn cynnal nifer fawr o gerddorfeydd, bandiau, corau a grŵpiau eraill i bobl ifanc ar draws Môn, Gwynedd a Sir Ddinbych i ddisgyblion o bob safon - o grwpiau bach rhanbarthol sy'n cyfarfod yn wythnosol, i'r grwpiau mwy, sirol, sy'n cyfarfod yn fisol. Mae bron i 650 o ddisgyblion yn mynychu'r grwpiau rhanbarthol, a dros 250 yn aelodau o'r grwpiau sirol.
Mae Gwasanaeth Ysgolion William Mathias hefyd yn ran o grŵp llywio Cerddorfa Ieuenctid Gogledd Cymru, ac mae llawer o'n haelodau yn mynychu cyrsiau'r gerddorfa. Dilynwch y dolenni ar y dde i gael mwy o wybodaeth am y gwahanol grwpiau.
Annwyl delynor
Mae Gwasanaeth Ysgolion William Mathias yn sefydlu côr telyn iau ac yn parhau gyda’r côr telyn hŷn ym Medi 2010. Mae chwarae mewn ensemble yn rhoi cyfle amhrisiadwy i delynorion ifanc ddatblygu eu chwarae, i fagu sgiliau newydd a hefyd i arbrofi gyda repertoire newydd a gwahanol.
Côr Telyn Iau - Rydym yn edrych am delynorion ifanc sydd:
• o safon gradd 3 +
• yn chwarae telyn pedal / ddi-bedal
• yn gallu ymrwymo i 6 ymarfer misol (dydd Sadwrn) yn ardal Porthmadog.
• yn gallu dod â thelyn i’r ymarfer ac i berfformiadau ( gallwn roi cymorth pellach os nad ydych yn berchen telyn).
Côr Telyn Hŷn - Rydym yn edrych am delynorion ifanc sydd :
• o safon gradd 5 +
• yn chwarae telyn pedal / ddi-bedal
• yn gallu ymrwymo i ymarferion ar benwythnosau (gyfystyr a thua 6 - 7 diwrnod y flwyddyn) yn ardal Porthmadog.
• yn gallu dod â thelyn i’r ymarfer ac i berfformiadau ( gallwn roi cymorth pellach os nad ydych yn berchen telyn).
Oes gen ti ddiddordeb ?
Byddwn yn cynnal clyweliad syml ar y 3ydd o Orffennaf yn Ysgol Eifion Wyn, Porthmadog pryd y bydd angen i ti berfformio dau ddarn cyferbyniol (dim mwy na 5 munud) ynghyd â phrawf darllen cerddorol syml. Mae’n bosib i ti chwarae rhannau o ddarnau yn unig i gyd- fynd ar ganllaw amser os wyt ti’n dymuno.
Yn dilyn y clyweliad, byddwn yn cynnig aelodaeth i’r rhai sydd yn addas a bydd yr ymarferion yn cychwyn ddiwedd Medi 2010 o dan arweinyddiaeth Einir Hughes (côr telyn iau) ac Alwena Roberts (côr telyn hŷn).
Os wyt ti â diddordeb dod i’r clyweliad, a fuaset / rhiant cystal â llenwi'r bonyn isod a’i ddychwelyd i’r swyddfa ( cyfeiriad isod) erbyn Mehefin 24 os gweli yn dda. Byddwn yn cysylltu â thi i gadarnhau amser dy glyweliad mewn da bryd.
Edrych ymlaen i`ch gweld!
Am ffurflen gais cliciwch yma.
Yn yr adran yma o’r wefan gewch fwy o wybodaeth am y ganlynol:
Yn yr adran Ensemblau

Cysylltu
Gwasanaeth Ysgolion William Mathias
Galeri
Doc Victoria
Caernarfon
Gwynedd
LL55 1SQ
Ffôn: 01286 685235
Facs: 01286 685234
E-bost: mari@cerdd.com
ann@cerdd.com

