Gwersi
Rhagarweiniad
Mae Gwasanaeth Ysgolion William Mathias wedi bod yn darparu gwersi cerdd offerynnol a lleisiol i ddisgyblion Gwynedd a Môn ers 1996, a Sir Ddinbych ers 1998. Bellach mae dros 13,750 o ddisgyblion ar draws y dair sir yn derbyn gwersi yn wythnosol yn eu hysgolion gan dîm o bron i 100 o diwtoriaid cymwys a phrofiadol.
Offerynnau
Ein nod yw gwneud yn siwr fod gwersi ar gael i bawb, ac i'r perwyl hwn rydym yn gallu rhoi benthyg un o dros 8,000 o offerynnau'r Gwasanaeth am ddim i'n myfyrwyr am gyfnod o 2 flynedd.
Grwpiau
Mae datblygiad cerddorol ein myfyrwyr yn greiddiol i waith y Gwasanaeth. Credwn y dylai pob unigolyn fanteisio ar y cyfle i ddatblygu ei sgiliau drwy gyd-berfformio ag eraill mewn ensemblau lleol, ac yn y pen draw bod yn rhan o grwpiau traws-sirol a chenedlaethol.
Yn yr adran Gwersi

Cysylltu
Gwasanaeth Ysgolion William Mathias
Galeri
Doc Victoria
Caernarfon
Gwynedd
LL55 1SQ
Ffôn: 01286 685235
Facs: 01286 685234
E-bost: mari@cerdd.com
ann@cerdd.com

