Newyddion
Cynhaliwyd cyngerdd Nadolig Ysgol Bontnewydd Dydd Mercher Rhagfyr 14eg 2011 - gyda Band y dechreuwyr a Band Hyn yr Ysgol. Mae 22 o ddisgyblion erbyn hyn yn derbyn gwersi yn yr ysgol dan hyfforddiant Mr Dylan Williams.
Mae llawer o ddisgyblion yr ysgol wedi bod yn llwyddiannus iawn yn eu arholiad offerynnol pres dan yr Associated Board. Mae un disgybl yn arbennig wedi derbyn yn o'r marciau uchaf trwy'r wlad sef Ela Haf Williams - Blwyddyn 4 a dderbyniodd 141 o farciau allan o 150 yn ei arholiad Cornet gradd 1. Llongyfarchiadau mawr iddi hi a Mr Williams ei athro ar eu llwyddiant.
Marciau Uchaf
![]() |
Llongyfarchiadau i'r eneth yma o Ysgol Bontnewydd am gael y marc uchaf yn arholiad Gradd 1 Cornet (mark 141) |
Aelodau Chwyth a Pres Rhanbarth Caernarfon- Cyngerdd Tachwedd 2011
CAFWYD NOSON ARBENNIG IAWN YNG NGHWMNI GRWP LLINYNNOL , BAND CHWYTH IAU A'R BAND CHWYTH HYN - RHANBARTH CAERNARFON . ROEDD THEATR SEILO YN ORLAWN A DIOLCH I BAWB AM GEFNOGI.
Cyngerdd Rhanbarth Arfon 3ydd Tymor (2011)
Cynhaliwyd y cyngerdd yn Theatr Seilo Caernarfon

"Band Ysgol Llanfairpwll ar y llwyfan yn Abertawe - fe gafwyd cyntaf gyda chanmoliaeth uchel iawn - diolch i Gwyn a'i ddawn ryfeddol"
Dafydd Idriswyn Roberts, Pennaeth.
Cliciwch yma i weld y fideo
Llongyfarchiadau i'r Band Pres Iau a dderbyniodd Wobr Aur yng nghystadleuaeth Bandiau Pres Ieuenctid Prydain 2011 ddydd Sul Ebrill 10fed - Da Iawn wir .
Diolch i Mr John Glyn Jones, Mr Dylan Williams, Mr Wynne Williams, Mr Mike McMahon a Miss Bethan Evans am hyfforddi y band.

Y penwythnos hwn fe fydd cwrs preswyl Cerddorfa Ieuenctid Gogledd Cymru yn Ysgol Moreton Hall yng Nghroesoswallt yn cyrraedd uchafbwynt gwefreiddiol wrth i dros chwedeg o gerddorion ifanc berfformio dwy gyngerdd arbennig iawn. Bydd y gyngerdd gyntaf yn cael ei chynnal yn Theatr Cymru Clwyd, nos Wener, Awst 27ain am 7pm a’r ail yn Neuadd Pritchard Jones Bangor, nos Sadwrn, Awst 28ain am 7pm.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
I weld yr adroddiad ar-lein gan Golwg cliciwch yma.
![]() |
![]() |
![]() |
|
| Diwrnod 1 |
| Diwrnod 2 |
|
Annwyl delynor
Mae Gwasanaeth Ysgolion William Mathias yn sefydlu côr telyn iau ac yn parhau gyda’r côr telyn hŷn ym Medi 2010. Mae chwarae mewn ensemble yn rhoi cyfle amhrisiadwy i delynorion ifanc ddatblygu eu chwarae, i fagu sgiliau newydd a hefyd i arbrofi gyda repertoire newydd a gwahanol.
Côr Telyn Iau - Rydym yn edrych am delynorion ifanc sydd:
• o safon gradd 3 +
• yn chwarae telyn pedal / ddi-bedal
• yn gallu ymrwymo i 6 ymarfer misol (dydd Sadwrn) yn ardal Porthmadog.
• yn gallu dod â thelyn i’r ymarfer ac i berfformiadau ( gallwn roi cymorth pellach os nad ydych yn berchen telyn).
Côr Telyn Hŷn - Rydym yn edrych am delynorion ifanc sydd :
• o safon gradd 5 +
• yn chwarae telyn pedal / ddi-bedal
• yn gallu ymrwymo i ymarferion ar benwythnosau (gyfystyr a thua 6 - 7 diwrnod y flwyddyn) yn ardal Porthmadog.
• yn gallu dod â thelyn i’r ymarfer ac i berfformiadau ( gallwn roi cymorth pellach os nad ydych yn berchen telyn).
Oes gen ti ddiddordeb ?
Byddwn yn cynnal clyweliad syml ar y 3ydd o Orffennaf yn Ysgol Eifion Wyn, Porthmadog pryd y bydd angen i ti berfformio dau ddarn cyferbyniol (dim mwy na 5 munud) ynghyd â phrawf darllen cerddorol syml. Mae’n bosib i ti chwarae rhannau o ddarnau yn unig i gyd- fynd ar ganllaw amser os wyt ti’n dymuno.
Yn dilyn y clyweliad, byddwn yn cynnig aelodaeth i’r rhai sydd yn addas a bydd yr ymarferion yn cychwyn ddiwedd Medi 2010 o dan arweinyddiaeth Einir Hughes (côr telyn iau) ac Alwena Roberts (côr telyn hŷn).
Os wyt ti â diddordeb dod i’r clyweliad, a fuaset / rhiant cystal â llenwi'r bonyn isod a’i ddychwelyd i’r swyddfa ( cyfeiriad isod) erbyn Mehefin 24 os gweli yn dda. Byddwn yn cysylltu â thi i gadarnhau amser dy glyweliad mewn da bryd.
Edrych ymlaen i`ch gweld!
Am ffurflen gais cliciwch yma.

Cofrestru Staff Newydd
Mae Gwasanaeth William Mathias yn chwilio am unigolion sydd â diddordeb cofrestru gyda’r gwasanaeth. Mae’r flwyddyn academaidd o’n blaenau yn cynnig sawl elfen newydd o ddarpariaeth gan y gwasanaeth yn cynnwys cyflwyno gwaith cwricwlwm mewn dosbarth, technoleg cerdd a gwaith ensemble yn ogystal â’r gwersi un i un offerynnol a lleisiol. Mae’r wythnosau nesaf yn allweddol wrth i ni dderbyn cytundebau ysgolion a chynllunio’r flwyddyn o’n blaenau ac felly - mae’n amser da i glywed gan gerddorion ac athrawon brwd sydd yn chwilio am waith.
Mae dros gant o staff yn gweithio i’r gwasanaeth erbyn hyn ac rydym yn gwasanaethu tair sir sef Môn ,Gwynedd a Sir Ddinbych. Mae ein gwefan www.cerdd.com yn darlunio mwy o hanes y gwasanaeth ynghyd a gwaith a llwyddiannau yr ensemblau Rhanbarthol a Sirol.
Os oes gennych ddiddordeb bod ar gael i weithio i’r gwasanaeth, a fuasech cystal â chofrestru eich diddordeb drwy lenwi’r ffurflen amgaeedig ynghyd a cv cyfredol yn cynnwys enw, cyfeiriad a rhif ffôn dau ganolwr i’r cyfeiriad isod. Os yw eich cais yn addas mae’n debygol y byddwn yn eich galw am gyfweliad yn syth fel eich bod yn cyflawni’r ffurflenni perthnasol ynghyd a gwiriad CRB. Mae cyflawni’r broses hon yn eich galluogi i fod ar gael i weithio os daw gwaith i’ch rhan.
Edrychaf ymlaen at glywed gennych yn fuan.
Yn gywir
Mari Lloyd Pritchard
Cyfarwyddwr
Am ffurflen gais Cliciwch yma
Llongyfarchiadau i`r canlynol ar eu llwyddiant yn Eisteddfod Genedlaethol Yr Urdd 2010 yr wythnos diwethaf !! Mae sawl un o’r unigolion a’r ysgolion yma yn gysylltiedig â’r gwasanaeth ! Da iawn pawb - daliwch ati !
Unawd Piano Bl 6 ac Iau
3ydd Gwenno Morgan- Ysgol Gynradd Y Garnedd
Unawd Telyn Bl 6 ac Iau
2il Math Roberts- Ysgol Llanrug
Parti Recorder Bl 6 ac Iau
2il Ysgol Gynradd Y Faenol
Unawd Chwythbrennau Bl 6 ac Iau
1af Hana Abas -Ysgol Y Garnedd
Cerddorfa/Band Bl 6 ac Iau
2il Ysgol Gynradd Llanfairpwll

Unawd Pres Bl 6 ac Iau
3ydd Iago Davies- Ysgol Gynradd Penybryn-Bethesda
Unawd Pres Bl 7-9
2il Pippa Scourse- Ysgol Gyfun David Hughes
Unawd Chwythbrennau Bl 7-9
3ydd David John Sutton- Ysgol Gyfun David Hughes
Band Bl 7-9
3ydd Aelwyd Bro Llanwnda
Ensemble Bl 7-9
3ydd Ysgol Uwchradd Brynhyfryd
Unawd Pres Bl 10 a dan 19oed
2il Gwyn Owen -Ysgol Uwchradd Tryfan

Ensemble Lleisiol Bl 13 ac Iau
3ydd Ysgol Uwchradd Syr Huw Owen
Unawd Telyn Bl 10 ac o dan 19ed
1af Glain Dafydd- Ysgol Uwchradd Tryfan
Unawd Piano Bl 10 a dan 19oed
1af James Coleman- Ysgol Gyfun David Hughes
2il Patrick Edgar Rimes- Ysgol Tryfan
Unawd Llinynnol Bl 10 a dan 19oed
2il Patrick Edgar Rimes- Ysgol Tryfan
Caerddorfa/Band dan 25oed
1af Ysgol Tryfan
Ensemble 15-25 oed
1af Ysgol Tryfan
Deuawd Offerynnol Bl 13 ac Iau
2il Rhianwen a Nia – Adran Brithdir
3ydd Patrick Rimes a Gwyn Owen -Ysgol Uwchradd Tryfan
Grwp/ Band 15-25 oed
2il Ysgol Uwchradd Tywyn-Meirionydd
Tlws Y Cerddor:
Arwel Rhys Williams – Tiwtor Piano

Cliciwch ar y linc yma i weld rhaglen Wedi 7 yn dathlu llwyddiant Band Prês Ieuenctid Gwynedd a Môn
Dathlu !
Yn dilyn llwyddiant y Band Pres Hyn yn ddiweddar - cafwyd prynhawn o gartio, bowlio gyda barbiciw i ddilyn ! Ydach chi'n nabod rhywun o dan yr helmedi ?

Mae Ysgol Sarn Bach ym Mhen Llŷn yn ysgol gerddorol iawn gan fod bron i hanner plant yr ysgol yn derbyn gwersi offerynnol - da iawn chi !!!! Fe welwch o’r llun mai offerynnau pres a chwythbrennau sydd yn mynd a’u bryd ac mae nhw’n mwynhau perfformio yn unigol ac mewn grwpiau. Mae Mr Wyn Williams, sydd wedi bod yn rhoi gwersi pres yn yr ysgol am 23 mlynedd yn falch iawn o lwyddianau’r plant - diolch iddo fo am ei waith caled !
Llongyfarchiadau i ddisgyblion fu'n llwyddianus yng nghystadleuaeth offerynol Mostyn dros y penwythnos diwethaf. Mae'r gystadleuaeth yn rhan o Wyl Gelfyddydol Llandudno ac mae'n dda gweld ein disgyblion yn mentro i fyd cystadlaethau unigol ! Am fwy o wybodaeth a lluniau oawb a fu'n llwyddianus - cliciwch ar y linc canlynol: www.llandudnoartsfestival.moonfruit.com


Gwybodaeth i ddilyn .......
Cafwyd cyfres llwyddiannus iawn o gyngherddau gan y grwpiau Rhanbarthol unwaith eto y tymor hwn ar hyd a lled ardaloedd Gwasanaeth Ysgolion William Mathias. Yn ystod cyngherddau tymor y Gwanwyn bob blwyddyn, rhoddir gwobrau i'r cerddorion mwyaf addawol yn y grwpiau sy'n werthfawrogiad o'u holl waith caled yn ystod y flwyddyn fel aelodau unigol ac fel aelodau o'r grwpiau ehangach. Dyma restr o enillwyr Gwanwyn 2010:
Rhanbarth Caernarfon
Grwp Llinynnol - Sion Grenet - Ffidil
Band Chwyth Iau - Jos Davison & Luned Hunter - Corn Tenor & Trwmped Band Chwyth Hyn - Adam Bragan - Cornet
Rhanbarth Meirionnydd
Grwp Llinynnol - Dan West - Fiola
Band Chwyth Iau - Steffan Parry - Cornet Band Chwyth Hyn - Siwan Parry - Sacsoffôn Tenor
Rhanbarth Bangor
Cerddorfa Hyn - Elin Taylor - Soddgrwth
Cerddorfa Iau - Alana Price - Ffidil
Cerddorfa Dechreuwyr - Cameron Williams - Ffidil Band Chwyth Hyn - Harry Clarke - Taro Band Chwyth Iau - Wesyn Dafydd - Taro
Rhanbarth Eifionydd
Ensemble Eifionydd - Lisa Cartwright - Ffliwt
Rhanbarth Botwnnog
Band Chwyth - Sioned Pozzi
Grwp Llinynnol - Mali Davies Hughes - Ffidil
Rhanbarth Pwllheli
Band Chwyth - Lowri Williams
Grwp Llinynnol - Elen Haf Davies - Ffidil
Rhanbarth Môn
Gwobr Michael Swallow 2010 - Disgybl o Ysgol Syr Thomas Jones - Dewi Humphreys Gwobr Michael Swallow 2010 - Pres - Pippa Scourse Gwobr Ymddiriedolaeth Cerdd Ynys Môn 2010 - Llinynnau - Olivia Jago Gwobr Ymddiriedolaeth Cerdd Ynys Môn 2010 - Chwythbrennau - Catherine Jones
Dylan Williams
Cydlynydd Grwpiau Rhanbarthol
Am adroddiad BBC News Cliciwch yma.
I wrando ar gyfweliad Radio Cymru Cliciwch yma.
Mae Band Pres Hŷn Gwynedd a Môn yn dathlu llwyddiant anhygoel heddiw gan iddynt ennill teitl Pencampwyr Bandiau Pres Ieuenctid Prydain. Dan arweinyddiaeth medrus Gwyn Evans a chefnogaeth criw profiadol o diwtoriaid, mae'r band wedi cyrraedd y brig yn uwch-adran Pencampwriaeth Bandiau Pres Ieuenctid Prydain fawr. Roedd y beirniaid yn canmol safon uchel y perfformiad ac yn canmol yn aruchel arweinaid medrus Gwyn Evans. Llongyfarchiadau enfawr i chi gyd !
Dyma sylwadau y wefan 4 bars rest ar y gystadleuaeth:-
"The National Youth Championships of Great Britain took place amid a controlled frenzy of youthful exuberance at Manchester’s Royal Northern College of Music on Sunday, where 39 youth ensembles battled it out for glory on a wonderful day of contesting.
Premier Section
The Blue Riband ‘Premier Section’ title was won by Gwynedd & Mon District County Youth conducted by Gwyn Evans, with a performance described by adjudicator Peter Parkes as one of the finest he had heard at any level of banding for many years.
Both he and fellow judge Sheona White had special praise for the conductor who Peter felt understood ‘every note of the test piece’, ‘Partita’ by Philip Wilby, to such an extent that he advised the band to lock him in a cupboard until next year to stop any other band trying to come and poach him away!
The winning MD told 4BR: "It was such a thrill to be part of this today. The band was incredible – simply incredible."
Ers canol mis Ionawr buon ni, aelodau côr newydd sbon Gwasanaeth Ysgolion William Mathias, yn ymarfer ar gyfer cyngerdd mawreddog yng Nghaerdydd i ddathlu Gŵyl Dewi, a hynny mewn tipyn o steil! Ein tiwtoriaid oedd Jenny Pearson a Pat Jones, gydag Arwel Wyn Williams yn cyfeilio i ni yn yr ymarferion. Trefnwyd y prosiect gan y BBC, a rhoddwyd cyfle i gorau ieuenctid siroedd Cymru ymuno i ganu cyfres o saith o ddarnau (un i’w ganu oddi ar ein cof) dan y teitl Dewi Sant, a gyfansoddwyd gan neb llai na Karl Jenkins. Cynhaliwyd y cyngerdd nos Lun, Mawrth 1, yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd, a chafodd ei ddarlledu’n fyw ar Radio Cymru.
Roedd y daith i lawr i Gaerdydd yn un hir, gyda phob troad diflas yr A470 yn chwarae hafog gyda stumogau ambell un! Serch hynny, roedd ’na ddigon o hwyl ar y bws — fe wylion ni ffilm, cafwyd gêm gystadleuol iawn o gardiau ac, wrth gwrs (gyda phedair ar ddeg o enethod ar y bws) roedd digon o siarad!
![]() |
![]() |
Wedi cyrraedd y brifddinas (a hynny chwarter awr yn hwyr oherwydd traffig!) aethon ni’n syth i’r ymarfer, a gynhaliwyd yn Neuadd Hoddinott dan arweiniad Adrian Partington, arweinydd Corws Cenedlaethol y BBC a fyddai hefyd yn ein harwain ni a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn y cyngerdd. O’r cychwyn cyntaf, roedd y gŵr yma yn gyfan gwbl o ddifri’! Ar ôl cynhesu’r lleisiau, aeth dros fannau anodd y darnau a chyfleu inni sut roedd ynganu’r geiriau Lladin yn gywir er pwrpas yr awyrgylch yr roedd ei angen, ac, yn wir, daeth 5 o’r gloch cyn inni droi rownd a’r ymarfer cyntaf drosodd. Yn ffodus, doedd ein gwesty am y penwythnos, Gwersyll yr Urdd, Caerdydd, ond prin rownd y gornel i Neuadd Hoddinott. Wedi rhybudd diogelwch gan reolwr y Gwersyll, roedden ni’n eistedd wrth y byrddau bwyd yn mwynhau ein swper.
Yn dilyn ein pryd, roedd gennym noson rydd, felly awgrymwyd mynd i fowlio deg yng Nghanolfan y Ddraig Goch a oedd dros y ffordd i’r Gwersyll. Gwaetha’r modd, roedd y lle’n llawn, felly mi benderfynon ni fynd i Tesco, prynu diod ysgafn, ychydig o fwyd, a dychwelyd i’r Gwersyll lle’r oedd cyfaill i Jenny wedi dod â’i liniadur gyda dewis o ffilmiau i ni eu gwylio. Diwrnod un drosodd, ac roedd wedi bod yn ddiwrnod da, yn sicr!
![]() |
![]() |
Er anfoddhad i bawb yn y côr, roedd yr ymarfer ddydd Sul wedi’i drefnu erbyn 10 o’r gloch y bore yn Neuadd Dewi Sant, ac roedd hynny’n golygu gorfod codi’n fore! Serch hynny, roedd pawb i lawr yn y ffreutur tua hanner awr wedi wyth pan weinwyd y brecwast ac yn fuan wedyn cychwynnodd y bws am ganol y dref. Roedd canu yn y neuadd hon yn brofiad hollol wahanol i ganu yn Neuadd Hoddinott — roedd y côr yn fwy ar wasgar ac wedi’i leoli uwch ben lle byddai’r gerddorfa yn chwarae. Am y tro olaf, cawsom biano yn cyfeilio i ni, ac hefyd am y tro olaf, cawsom gopïau i’r darn yr oeddem i fod yn ei gofio! Yn yr ymarfer p’nawn, y gerddorfa oedd oddi tanom ni, ac yn disgwyl dim camgymeriadau! Roedd hynny’n brofiad gwefreiddiol ac roedd ein lleoliad yn cynnig cyfle gwych i gael gweld y gerddorfa i gyd. Yn dilyn ein hymarfer ni, roedd y gerddorfa yn ymarfer ar gyfer ei rhaglen hwy a fyddai yn hanner cyntaf y cyngerdd. Cafodd y corau gyfle i aros yn y neuadd a gwrando arnynt yn ymarfer, ac roedd pob un ohonom yn falch ein bod wedi derbyn y cynnig!
Cawsom noson arall i’w llenwi, a’r tro yma, roedd y lle bowlio’n wacach, felly roedd lle i ni i gyd gael gêm. Fel y tybiwch chi, roedd chwerthin mawr a rhai’n cael gwell hwyl nag eraill, ond mae’n deg dweud nad ydi Pencampwriaethau Bowlio’r Byd dan unrhyw fygythiad wedi ein gweld ni wrthi!
Fore trannoeth doedd dim cymaint o ruthr gan nad oedd angen bod yn ein seddau yn y Neuadd tan bedwar o’r gloch ond, wedi dweud hynny, doedd dim amser i ddiogi chwaith! Roedd ein tiwtoriaid wedi trefnu i ni fynd i Amgueddfa Sain Ffagan yn y bore, yna i nofio ym Mhwll Nofio Rhyngwladol Caerdydd ac i orffen, i Ganolfan Dewi Sant (i sŵn cymeradwyaeth gan y genethod) i siopa. Tra oeddem ni yn Sain Ffagan, aeth Siôn Elwyn i stiwdio Radio Cymru yn Llandaf, ynghyd ag aelod o Gôr Ceredigion ac Osian Rowlands o’r BBC, i siarad ar raglen Nia am y cyngerdd a’r profiad o gael canu mewn côr o’r fath.
Am chwarter i bedwar, cyfarfu pawb y tu allan i Neuadd Dewi Sant, yn baciau i gyd ac yn barod am y noson o’n blaenau. Â’r ‘awr fawr’ yn dynesu, roedd pawb ohonom ar dân eisiau eistedd yn eu seddau a rhyddhau ffrwyth ein llafur i’r gwrandawyr yn y neuadd ac ar y radio. Cyrhaeddodd hanner awr wedi saith o’r diwedd, gyda chyfle i fwynhau’r gerddorfa’n chwarae eu rhaglen, a gwrando ar yr unawdwraig fyd-enwog, Catrin Finch ar y delyn. Wedi’r toriad, fodd bynnag, arnom ni yr oedd pob llygad yn y neuadd.
Talodd yr holl ymarfer ar ei ganfed ac aeth y cyngerdd yn union fel yr oedden ni wedi’i ddymuno. Roedd y wefr ar y diwedd yn anhygoel, a tharodd y timpani ragarweiniad yr anthem i gloi’r cyngerdd.
Yn syth wedyn, allan o’r Neuadd ac ar y bws, a chychwyn ar y daith flinedig adref. Cyrhaeddon ni’r Gogledd yn oriau mân y bore fore Mawrth, a phawb yn edrych ymlaen at noson dda, neu fore da, o gwsg!
Mae’n dda cael dweud bod Adrian Partington yn uchel ei ganmoliaeth i’r cyfun-gôr ac, yn ei eiriau ef, ‘Dim ond yng Nghymru y gallai 300 o bobl ifanc ddod at ei gilydd ddau ddiwrnod cyn cyngerdd fel hyn, a chanu i’r safon yma. Mae’n wirioneddol wych.’
I gloi, hoffwn, ar ran y côr, ddiolch yn fawr iawn i’r BBC am y cyfle, ac yn arbennig i’n tiwtoriaid — Jenny Pearson, Pat Jones, Arwel Wyn Williams a Mari Pritchard am wneud y penwythnos yn un mor anhygoel a chofiadwy.
Adroddiad gan Sion Elwyn Hughes
![]() |
![]() |
Yn sgil gwahoddiad i gymryd rhan ym Mhrom Ysgolion Music for Youth ar y 10fed o Dachwedd, 2010, cafodd Côr Ieuenctid Môn wahaoddiadau i berfformio mewn sawl lleoliad ar draws Llundain, gan gynnwys yn Nhy Siaradwr Ty'r Cyffredin ac yn y Ty ei hun.
Digwyddiadau yr Ensemble Chwythbrennau
FFOCWS AR Y CLARINET
yng nghwmni Paolo De Gaspari
Dydd Sadwrn, Tachwedd 26ain 2011, 9.45am - 4pm - cliciwch yma
Chwareuwyr Chwythbrennau sydd yn aelod o’r Band Symffonig a’r
Gerddorfa Hŷn - cliciwch yma
CLARINET & SAXOPHONE PLAYDAY
with Paolo De Gaspari, Linda Merrick, Stephanie Reeve, Andy Scott (with Sax Assault) and Jeffery Wilson
- cliciwch yma
-------------------------------------------------------
CONSORT TELYN
Côr Telyn Hŷn - Dydd Sul -Tachwedd 27ain mwy
-------------------------------------------------------
CWRS GLAN LLYN Y BAND PRES IAU CHWEFROR 2012
Cwrs Glan Llyn - cliciwch yma
Tystysgrif Iechyd a Gwybodaeth Glan Llyn - cliciwch yma
-------------------------------------------------------
Cwrs Big Band Conwy - Tachwedd 4-6
Manylion - cliciwch yma
Yn yr adran Newyddion

Cysylltu
Gwasanaeth Ysgolion William Mathias
Galeri
Doc Victoria
Caernarfon
Gwynedd
LL55 1SQ
Ffôn: 01286 685235
Facs: 01286 685234
E-bost: mari@cerdd.com
ann@cerdd.com













