slideshow-3

Llwyddiant i Fand Pres Gwynedd ac Ynys Môn

Fe gafodd Band Pres Hŷn Gwynedd a Môn, sy’n rhan o Wasanaeth Cerdd Ysgolion Gwynedd a Môn lwyddiant mewn cystadleuaeth diweddar ar gyfer bandiau ar draws y DU.

Daeth y Band dan arweiniad Mr Dylan Williams yn drydydd ac ennill gwobr Aur ym Mhencampwriaeth y Bandiau Pres yn Warwick.

Llwyddodd y band i guro cystadleuaeth o bob cwr o Brydain gyda 15 o fandiau eraill yn cystadlu yn eu herbyn yn yr adran.

Mae aelodau’r band yn cynnwys disgyblion sydd rhwng 13 a 18 oed sy’n derbyn gwersi offerynnol yn ysgolion Gwynedd ac Ynys Môn.

Dywedodd Ann Jones Rheolwr y Gwasanaeth Cerdd: “Rydym yn hynod falch o’r cerddorion ifanc yma ac yn ddiolchgar iawn iddynt i gyd am eu hymroddiad yn ystod cyfnod prysur adolygu tuag at arholiadau TGAU a Lefel A. Mae hyn yn dipyn o gamp ac yn arwydd o waith caled a thalent ein tiwtoriaid a’r plant.

Bydd aelodau’r Band Pres Hŷn yn cael mynd ymlaen rwan i gymryd rhan mewn gweithdy gyda aelodau o fand byd enwog ac enillwyr Band Cymru 2018 – Band Cory ac yn cymryd rhan yn eu cyngerdd yn Neuadd Pritchard Jones Bangor ar yr 2il o Fehefin.

Mae Gwasanaeth Cerdd Ysgolion Gwynedd a Môn wedi bod yn darparu gwersi mewn ysgolion ar draws y ddwy sir ers dros 20 mlynedd – bellach mae dros 3,000 o ddisgyblion a tua 50 o diwtoriaid. Mae’r gwasanaeth hefyd yn gyfrifol am y Band pres, ac ensemblau a grwpiau eraill tebyg sy’n sicrhau cyfleodd i’r plant ddatblygu eu sgiliau cerddorol u ti allan i’r ysgol.

© Gwasanaeth Cerdd Ysgolion. Cedwir Pob Hawl - Gwefan gan Delwedd.
Rhif y cwmni: 3102665. Rhif elusen: 1097614.